Adam Price AC
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
15 Medi 2016
Annwyl Adam
Diolch am eich llythyr, dyddiedig 1 Medi 2016, sy’n nodi’ch pryderon ynghylch y camau gan Gymdeithas Tai Wales and West i feddiannu Cymdeithas Tai Cantref. Rwy’n nodi hefyd eich bod wedi galw ar fy mhwyllgor i gynnal ymchwiliad i’r sefyllfa hon a rôl Llywodraeth Cymru yn y broses.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, rwy’n awyddus
i’n gwaith adlewyrchu’r materion cyfoes sy’n
wynebu cymunedau ledled Cymru. I helpu i gynyddu fy nealltwriaeth
o’r materion rydych wedi’u codi, rwyf wedi gofyn
i’m swyddogion ymchwilio i’r mater ac adrodd yn
ôl i mi cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, rwyf wedi anfon copi o’ch llythyr at Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, o gofio bod y mater rydych yn ei drafod yn eich llythyr yn cyd-fynd yn fwy naturiol â chylch gwaith ei Bwyllgor. Deallaf y bydd y Pwyllgor hwnnw yn trafod cynigion ar gyfer ymchwiliadau posibl yn ei gyfarfod ar 19 Medi.
Byddaf yn cysylltu â chi eto maes o law.
Cofion cynnes
John Griffiths AC / AM
Cadeirydd / Chair